Gyda
chymysgedd o falchder ac anghrediniaeth yr ydym yn
edrych yn ôl ac yn meddwl "Rargian! Ydan ni wedi bod
mewn bodolaeth ers cymaint?" Tair blynedd ar hugain!
Wrth gwrs, mae cyfnod di-dor fel hyn yn ein hymrwymo
rhywsut ac yn ein hatgoffa mai dros dro yn unig yr ydym
ni yn gofalu am hanes a diwylliant ein cymuned… a'i bod
yn well inni ofalu amdanynt er mwyn i Ŵyl Criccieth gael
mwynhau tair blynedd ar hugain arall. Gobeithio, mai
eraill fydd yn drafftio nodyn ar gyfer ein tudalen flaen
yn 2033 ac yn ymwybodol o'r un teimlad o lwyddiant a
pharhad...
Dechreuodd yr Ŵyl yn ddigon bychan ar ddiwedd yr 80au,
yn rhannol i ymestyn tymor yr ymwelwyr ac i ddenu
twristiaid i Griccieth cyn dechrau gwyliau'r haf: dyna
pam ei chynnal ganol Mehefin. Ond roedd yn llawer mwy na
syniad busnes… gan yr ymdrechodd i ddod â'r celfyddydau,
cerddoriaeth, barddoniaeth a pherfformio o safon i'r
dref lan y môr fach odidog hon, y safonau uchaf un i'n
hysbrydoli, un ac oll, yn drigolion ac ymwelwyr, i
werthfawrogi'n well ein creadigrwydd. Wedi'r cyfan,
cawsom ein bendithio gan olygfeydd ysblennydd ar yr ochr
orllewinol yma o Ogledd Cymru a thros y blynyddoedd,
mae'r Ŵyl wedi dod â llu o artistiaid o enwogrwydd
cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â brethyn
cartref, i gydfynd â bendithion byd natur.
Felly, o'r dechrau, mae'r Ŵyl wedi camu'n fras a bob mis
Mehefin mae'n tref gastellog yn llawn disgwyliad am
raglen o ddigwyddiadau i fodloni'r rhai a'r archwaeth
bwyd salaf. Os yw eich diddordeb mewn garddwriaeth,
telynau, neu hanes, Catrin Finch, celfyddyd gain neu dân
gwyllt, Mozart neu Monteverdi, llofruddiaeth ddirgel neu
grefft cerdyn, byddwch siwr o'i ganfod yng ngŵyl eleni.
Croeso i Gricieth! |
|
It is with a
mixture of pride and disbelief that we look back and
think “Gosh! Have we been going that long?” Twenty three
years! Of course, such a spell of unbroken history
imposes its own obligation upon us… and reminds us that
we are only the current custodians of a valuable piece
of our community’s history and culture… and we’d better
look after it so that the Criccieth Festival enjoys
another twenty three successful years. Hopefully,
somebody else will be drafting a note for our home page
in 2033 and feeling the same sense of achievement and
continuity...
The Festival began modestly enough in the late
1980s, partly as a means of extending the tourist
season and attracting holiday makers to Criccieth before
the summer school holidays began: hence its mid-June
slot. But it was much more than a mere business ploy…
for it sought to bring to this lovely little seaside
town, art, music, poetry and performance of such quality
as to inspire in ALL of us, residents and visitors
alike, a greater appreciation of the beauty in our own
human creativity. After all, nature has already blessed
us with spectacular scenery on this western edge of
North Wales and over the years, the Festival has brought
to Criccieth a host of artistes of national and
international fame, as well as home-grown talent, to
complement nature’s generosity.
So, from the start, the Festival has punched beyond its
weight and every June our castled town buzzes with
anticipation of a programme of events to please even the
most jaded of appetites. Whether your interest runs to
horticulture, harps or history, Catrin Finch, fine art
or fireworks, Mozart or Monteverdi, murder mystery or
card craft, Lloyd George or jazz, you will find it in
this year’s festival. Welcome to Criccieth! Croeso i Gricieth!
|